Cofnodion y Grŵp Trawsbleidiol ar blant sy’n dioddef gan fod eu rhieni wedi’u carcharu

 Cofnodion - 10  Mawrth 2015 -  Carcharu merched

1.       Christine Chapman - Croeso a Chyflwyniad

 Croesawodd Christine Chapman AC y cynrychiolwyr, gan ddweud bod y gynulleidfa fawr yn dangos pwysigrwydd y pwnc dan sylw. Aeth Christine ati i gydnabod y cynrychiolwyr gan gynnwys Suzy Davies AC, a staff cymorth o swyddfeydd Lindsey Whittle AC, Ann Jones AC a Jenny Rathbone AC.  Bu cryn drafod ynghylch carcharu merched; mae manteision cymdeithasol ac economaidd cryf ynghlwm wrth  gadw merched allan o'r carchar, fel y nodir yn adroddiad y Farwnes Corston ar garcharu merched. Croesawodd Christine y siaradwyr a chyhoeddodd y byddai Yvonne Rodgers, Cyfarwyddwr Barnardos Cymru yn parhau i gadeirio'r cyfarfod pan fyddai'r Aelodau yn gadael i fynd i'r Cyfarfod Llawn.

2.        Gwaith ymchwil - Robert Jones: Darlithydd Troseddeg, Prifysgol De Cymru

 Rhoddodd Robert gyflwyniad ar yr ymchwil a wnaed i'r system garcharu yng Nghymru. Canolbwyntiodd ar faterion sy'n effeithio ar ferched o Gymru a gaiff eu carcharu gryn bellter, yn aml,  o'u cartrefi a'u teuluoedd.  Er bod y ffigurau'n awgrymu bod nifer y merched a garcharwyd yn Lloegr wedi gostwng rhwng 2012 a 2014, mae nifer y merched o Gymru a ddedfrydwyd i garchar wedi cynyddu dros yr un cyfnod. Mae merched o Gymru yn cael eu carcharu ym mhob un o'r carchardai i ferched yn Lloegr.  Trafodwyd yr effaith a gaiff y pellteroedd ar ymweliadau, gan gynnwys y gost i deuluoedd ac anawsterau teithio. Dywedodd Robert fod cynnal y berthynas rhwng teuluoedd yn bwysig iawn i ganlyniadau adsefydlu, a bod hynny hefyd yn gwella canlyniadau i blant y carcharorion.  Mae angen ymchwilio rhagor i'r berthynas rhwng mamau a garcharwyd a'u plant, ac i'r profiad o ymweld â charchar o safbwynt y plant.   Eglurodd Robert fod angen i Lywodraeth Cymru gasglu data'n systematig, gan nad yw ffigurau'n dangos y cynnydd yn nifer y merched a garcharwyd yn hawdd eu cael.  Dywedodd Robert hefyd nad yw'r gwasanaeth carchardai'n ystyried y pellter y mae rhai teuluoedd yn gorfod ei deithio pan fyddant yn ymweld. Awgrymodd Robert y gellid helpu perthnasau sy’n gorfo teithio ymhell e.e. darparu rhagor o fysiau.  Yn ôl Robert, roedd angen gofalu rhag ymateb yn ddifeddwl i'r ffaith nad oedd carchardai ar gyfer merched yng Nghymru, a phenderfynu'n fyrbwyll i godi un. Roedd yn bwysig, meddai, ystyried posibiliadau eraill cyn dedfrydu merched i garchar, lle y bo'n briodol.  Soniodd Robert am ddigwyddiad i’w gynnal ar 22  Ebrill i ystyried cosbi merched heb eu dedfrydu i garchar, a byddai gwybodaeth am hyn yn cael ei dosbarthu.

3.        Prosiect Ymweld â Mam - Joanne Mulcahy: Pennaeth Gwasanaethau Rhanbarthol PACT

 Cyflwynodd Joanne y gwaith y mae PACT yn ei wneud gyda merched sydd wedi'u carcharu, gan gynnwys cynlluniau i gael gweithiwr teulu ym mhob carchar i ferched yn Lloegr. Gan ddyfynnu adroddiad Corston, soniodd Joanne am y llu o broblemau y bydd merched yn eu hwynebu cyn cyrraedd y carchar. Maent, ymhlith problemau eraill, yn fwy tebygol o ladd eu hunain, o ddioddef o salwch meddwl ac o gael eu cam-drin.   Trafodwyd hefyd bryderon merched am eu cartrefi a gofal plant. Dim ond 5% o blant sy'n aros yn y cartref teuluol ar ôl i'w mam gael ei charcharu.  Mae adroddiad gan yr Ymddiriedolaeth Diwygio Carchardai yn awgrymu nad yw hanner yr holl ferched yn y carchar yn gweld eu plant. Gellid priodoli hyn i bryderon am effaith ymweliadau o'r fath ar y plentyn, neu i'r ffaith nad oes oedolyn priodol i deithio gyda'r plentyn. Cyflwynodd Joanne y prosiect Ymweld â Mam sydd, mewn partneriaeth â SOVA, yn ceisio helpu merched o Gymru sydd wedi'u carcharu i gadw cysylltiad â'u plant.  Ymhlith amcanion y prosiect y mae lleihau effaith y carchariad ar y plentyn a'r fam, lleihau achosion o aildroseddu, lleihau'r pryderon sy'n codi o'r ffaith bod y fam a'r plentyn wedi'u gwahanu gan ddefnyddio'r hyn a ddysgwyd o'r prosiect yn sylfaen i unrhyw bolisïau ac arferion gwaith.  Mae'r gweithwyr prosiect yn gweithio yn y carchar gyda'r fam ac, yn y gymuned, mae SOVA yn gweithio gyda'u teuluoedd.  Ar hyn o bryd, mae'r prosiect yn creu adnodd, dan gyfarwyddyd plant a rhieni, a bydd ar gael i deuluoedd. Mae'r gweithwyr prosiect hefyd yn gweithio gyda gweithwyr proffesiynol, gan gynnwys gweithwyr cymdeithasol, sy'n cael eu hannog i ymweld â'r fam er mwyn cael gwybod mwy am yr achos. Mae'r prosiect yn hwyluso hyfforddiant a digwyddiadau, ac mae wedi rhyddhau llyfr yn dwyn y teitl; Mum's the Word, a ysgrifennwyd gan famau i famau. Gall y cynrychiolwyr gysylltu â Charlotte Parsons am gopi o'r llyfr ac i gael rhagor o wybodaeth am ddigwyddiadau a hyfforddiant.

4.        Prosiect Llwybr Merched - Wendy Hyett: Rheolwr Prosiect Braenaru i Ferched IOM Cymru

Rhoddodd Wendy gyflwyniad byr ar Reoli Integredig Troseddwyr (IOM) Cymru, cyn siarad yn fwy penodol am y Prosiect Braenaru i Ferched. Partneriaeth strategol ar gyfer Cymru gyfan yw IOM Cymru ac mae'n hybu trefniadau i weithio ar y cyd i helpu troseddwyr yng Nghymru o dan Strategaeth Lleihau Aildroseddu yng Nghymru, sef y gyntaf o'i math yn y DU.  Mae'r strategaeth yn amlinellu nifer o grwpiau i'w blaenoriaethu, gan gynnwys troseddwyr sy'n ferched. Nod y Prosiect Braenaru i Ferched yw  'cynllunio a chyflwyno system gyflawn, integredig ar gyfer merched yn benodol, i reoli merched sy'n dod i gysylltiad â'r System Cyfiawnder Troseddol yng Nghymru.'   Trafododd Wendy ffrydiau gwaith presennol y prosiect a chyfeiriodd at swydd newydd yn Nhîm Cyflenwi IOM Cymru a fydd yn gweithio'n benodol ar y Llwybr Plant a Theuluoedd a bydd yn cydweithio'n agos â'r Prosiect Braenaru i Ferched mewn perthynas â materion plant a theuluoedd i ferched. Dywedodd Wendy fod mwy o ddynion na merched yn troseddu ac, o ganlyniad, datblygwyd dulliau o weithio sy'n addas i ddynion, a chaiff ei gymhwyso wedyn i ferched.  Nid yw hyn bob amser yn briodol o gofio anghenion merched. Yr amcanion craidd yw lleihau troseddu ac aildroseddu, lleihau'r nifer sy'n cael eu harestio ac a gaiff eu dedfrydu i garchar, a datblygu ffyrdd mwy effeithiol o weithio gyda merched sy'n dod i gysylltiad â'r System Cyfiawnder Troseddol, a hynny yn y gymuned. Sefydlwyd melin drafod cynaliadwyedd i sicrhau bod y Prosiect Braenaru yn gynaliadwy ar sail partneriaeth a bod arfer da'n cael ei brif ffrydio, gan gynnwys meithrin gallu yn y trydydd sector. Yn dilyn yr Adolygiad garchardai i ferched drwy'r DU, yn y dyfodol, caiff holl ferched Cymru eu cadw yn Eastwood Park neu Styal a fydd yn datblygu'n garchardai ailsefydlu.  Gan awgrymu bod angen rhagor o waith ymchwil a gwerthuso sy'n ymwneud yn benodol â Chymru, trafododd Wendy y manteision sydd ynghlwm wrth beidio â charcharu merched a'u hanfon i weithio yn y gymuned os ydynt yn troseddu ar lefel isel. Mae hyn yn digwydd yn awr fel rhan o gynllun peilot yng Nghaerdydd a chaiff ei ehangu i bedwar safle arall yn ystod 2015. Yng nghyswllt y cynllun peilot  sydd ar waith yng Nghaerdydd ar hyn o bryd, cynhelir cyfarfodydd bob wythnos i ystyried pob merch sy'n dod i gysylltiad â'r System Cyfiawnder Troseddol gan gynnwys y rhai sy’n rhan o’r Cynllun Dargyfeirio, y rhai a ddedfrydwyd i weithio yn y gymuned ac a ddedfrydwyd i garchar neu a ryddhawyd o'r carchar. Mae'r prosiect yn eang ac yn amlweddog, felly gofynnodd Wendy i'r cynrychiolwyr gysylltu â hi os hoffent ragor o wybodaeth am ffrydiau gwaith penodol. 

5.       Sesiwn holi ac ateb

 Rhian Roberts (Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gogledd Cymru): Mae Winston Roddick, Comisiynydd Heddlu a Throseddu,  yn awyddus i gynorthwyo plant o Ogledd Cymru sydd â rhiant yn y carchar. Mae rhai datblygiadau diddorol yn ymwneud â chodi'r carchar newydd. Beth yw eich barn chi ynghylch a ddylid cael cylch gwaith ar ferched yng Ngogledd Cymru?

Robert Jones (Prifysgol De Cymru): Na, oherwydd mae dadl gref yn erbyn creu darpariaeth ar gyfer merched yn y carchar. Gall hyn olygu dim mwy na chreu rhan ychwanegol yn y carchar ar gyfer merched.   Mae angen edrych ar hyn yn iawn, yn hytrach nag ymateb yn ddifeddwl. 

Wendy Hyett (Prosiect Braenaru i Ferched):  Os yw'n cael ei ystyried yn gyfleuster da, efallai y bydd yn demtasiwn ystyried anfon merched yno yn lle chwilio am ddulliau eraill o ymdrin â nhw. Fodd bynnag, byddai'r cysylltiadau trafnidiaeth o Dde Cymru i Ogledd Cymru yn dal yn broblem, felly ni fyddai o reidrwydd yn datrys problemau trafnidiaeth chwaith.

Jo Mulcahy (PACT): Cytuno â'r ddau bwynt.

Bernie Bowen-Thomson (Cymru Ddiogelach): Mae nifer y merched yn y carchar wedi mwy na dyblu ers 1995. Rwy'n sylweddoli ein bod am weld y nifer yn gostwng, ond mae nifer o broblemau'n codi pan fydd merched yn cael eu cadw ar remand- tai er enghraifft. A allem ystyried posibiliadau eraill?

 Robert Jones (Prifysgol De Cymru)  : Mae diffyg darpariaeth ar gyfer merched mewn hosteli hefyd. Mae angen inni edrych yn fanwl ar y broblem drwy Gymru gyfan. Mae angen i Lywodraeth Cymru i gyfrannu, gan fod y materion hyn yn ymwneud â meysydd datganoledig.

Bernie Bowen-Thomson (Cymru Ddiogelach): A allai hyn ddod o dan yr elfen atal yn y Ddeddf Gwasanaethau Cyhoeddus a Llesiant (Cymru)?  

Robert Jones (Prifysgol De Cymru): Nid wyf wedi cael llawer o gyfle i wneud synnwyr o'r Ddeddf eto ond, o'm safbwynt i, ni ddylai gael ei ystyried ar wahân ac mae cadw merched ar remand yn broblem enfawr. 

Wendy Hyett (Prosiect Braenaru i Ferched): Un o'r pethau rydym yn gobeithio bwrw ymlaen ag ef fel prosiect ymchwil yw ystyried y rhesymau dros gadw merched ar remand. Rydym wedi cael y drafodaeth hon mewn cyfarfodydd. Rydym yn teimlo y dylid eu cadw ar remand dim ond os yw popeth arall wedi methu, a dim ond os byddant yn cael eu cadw yn y ddalfa.   Rydym yn awgrymu bod rhai achosion pan gadwyd merched ar remand er bod dewis arall, ond mae angen mwy o dystiolaeth i ddeall y mater yn llawn.

Barbara Natasegara (Cymru Ddiogelach): A allem ddadlau ar sail Hawliau'r Plentyn?

Wendy Hyett (Prosiect Braenaru i Ferched): Mae angen inni gael gwybod beth sy'n digwydd yn gyntaf.

Yvonne Rodgers (Barnardo’s Cymru): A allai hyn fod yn rhywbeth y gallwn ei ddwyn i sylw Llywodraeth Cymru? Oherwydd effaith y Ddeddf Tai, efallai y gallem roi sylw manylach i'r broblem.  Efallai y gallem fel grŵp, ystyried hyn a'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), a mynd yn ôl at ein sefydliadau unigol.

 Beverley Poiner (FFOPS)  : A oes unrhyw hosteli mechnïaeth i ferched yng Nghymru?

Wendy Hyett (Prosiect Braenaru i Ferched): Roedd rhai ar gael yn y gorffennol ond, oherwydd problemau, nid ydynt yn bod rhagor. Pan roedd hostel penodol ar gyfer merched, roedd problemau. Gallem weithio gyda phartneriaid o bosibl, i ystyried posibiliadau eraill i'w treialu'r flwyddyn nesaf. Mae angen inni ystyried y ffordd orau o helpu merched. Mae angen darpariaeth wahanol ar gyfer merched – does dim angen hosteli bob amser.

Bernie Bowen-Thomson (Cymru Ddiogelach): Nid ydynt yn addas i ferched.

Beverley Poiner (FFOPS): Hoffwn weld tŷ lle gall merched fyw gyda'u plant, a byddai'r fam yn gallu mynd â'r plant i'r ysgol. Yn llawer rhy aml, mae cymaint o broblemau'n codi pan mae'n rhaid i'r plant symud. 

Barbara Natasegara (Cymru Ddiogelach): Mae angen i Aelodau Cymru weld beth yw barn Cymru am hyn.  Nid ydym am gael carchar i ferched yng Nghymru, ac mae angen cyhoeddusrwydd a chefnogaeth i'r safbwynt hwn. A allaf ofyn am gefnogaeth y grŵp hwn?

Laura Tranter (Barnardo’s Cymru): Roedd prosiect ym Mryste lle'r oedd problem o ran cynaliadwyedd. Roedd yn ymwneud yn bennaf â phwy sy'n talu, ac ai mater yn ymwneud â phlant ynteu cyfiawnder ydyw?  Mae hyn yn fwy cymhleth eto yng Nghymru oherwydd datganoli

Yvonne Rodgers (Barnardo’s Cymru): Mae rhai materion yn codi y gallwn eu hystyried fel grŵp. Fel remand, tai a'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru). Gallem hefyd ystyried ffyrdd eraill o ymdrin â merched sydd wedi troseddu heb eu carcharu.

Tim Ruscoe (Barnardo's Cymru): Efallai y bydd angen defnyddio'n dychymyg. Rwyf yn synhwyro bod cyfle i wneud rhywbeth gwahanol yng Nghymru. Wrth ystyried y posibiliadau eraill, mae angen inni feddwl am gostau, nifer y troseddau, aildroseddu a phlant. 

Bernie Bowen-Thomson (Cymru Ddiogelach): Fel Is-gadeirydd Breakout Merched, rwyf wedi gweld llawer o dystiolaeth sy'n dangos y gellir arbed costau drwy beidio â charcharu merched.  Byddwn yn hapus i anfon gwaith ymchwil hwn at unrhyw un sydd â diddordeb. Yn ogystal â hyn, un peth sy'n bwysig i'w ystyried yw costau cyfalaf cymdeithasol.

Wendy Hyett (Prosiect Braenaru i Ferched): Gallaf gadarnhau ei fod yn bendant yn gost-effeithiol. Mae'n anodd profi hynny weithiau, gwyddom hynny, ond rydym yn cyrraedd pwynt lle galliwn ddangos y gost. Oherwydd bod gwahanol gostau a goblygiadau gall fod yn her weithiau. Mae pob agwedd yn wahanol a hyd nes bod modd dangos sut y gellir arbed costau yn y naill faes drwy wario ar y lla, mae’n sefyllfa anodd. Mae angen i bobl ddod at ei gilydd a siarad yn synhwyrol, a gall pawb gyfrannu.

Robert Jones (Prifysgol De Cymru): Rwyf wedi bod yn ymchwilio i garchardai i ferched yn Efrog Newydd yn y cyswllt hwn. Y broblem sy’n codi yw bod troseddwr ar lefel ganolig yn gallu osgoi’r carchar, sy’n beth da, ond gall troseddwr lefel is gael eu hanfon i weithio yn y gymuned yn hytrach na chael rhybudd  fel y byddai wedi digwydd cynt. Felly nid yw bob amser yn addas.  

Jo Mulcahy (PACT): Mae PACT wedi cynnal dadansoddiad cost a budd a gwelwyd bod pob £1 a wariwyd ar gynorthwyo troseddwyr a’u teuluoedd yn creu budd o £11. 

Yvonne Rodgers (Barnardo’s Cymru): Diolch i bawb am gynnig anfon rhagor o wybodaeth ymlaen a’i rhannu. Dechreuodd y grŵp hwn pan ofynnodd Christine Chapman gwestiwn am famau a garcharwyd. Mae'n ymddangos bod cyfle gwirioneddol yma i gael dylanwad.

 Caiff manylion digwyddiad gan yr Ymddiriedolaeth Diwygio Carchardai, sef yr ail ar hugain i’w gynnal, eu dosbarthu.

Leeanne Plechowicz (Prosiect Braenaru i Ferched IOM Cymru): Roeddwn i’n arfer gweithio fel Rheolwr Tîm mewn Llys; byddai fy nhîm yn ysgrifennu adroddiadau cyn dedfrydu. Os ydym am godi ymwybyddiaeth, gall fod yn anodd iawn trosglwyddo neges ynghylch unrhyw agwedd ar ddedfrydu.

Yvonne Rodgers (Barnardo’s Cymru): Rwy'n cytuno y gall fod yn anodd iawn. Mae Barnardos yn ceisio gweithio gydag ynadon i ddatrys problemau’n ymwneud â  chamfanteisio’n rhywiol ar blant, ac nid yw hynny wedi bod yn hawdd.

Laura Tranter (Barnardo’s Cymru): Yn fy mhrofiad i o weithio gyda llysoedd Casnewydd, roeddent  yn hapus i weithio gyda ni a chyflwyno rhai newidiadau. Ond dywedwyd wrthym fod yn rhaid ymdrin â’r mater ar lefel genedlaethol nid fel llysoedd unigol. Gynt, pan oeddwn yn gweithio ar secondiad i  NOMS, dywedwyd wrthym fod hyn yn destun adolygiad barnwrol. Felly, yn anffodus iawn,  gall anawsterau godi oherwydd y ffordd y mae'r system yn gweithio.

Wendy Hyett (Prosiect Braenaru i Ferched): Mae problemau ynghlwm wrth gydweithoi â'r farnwriaeth oherwydd bod angen iddynt fod yn amhleidiol – mater a drafodwyd ambell waith gyda bwrdd cynghori’r DU.   Cawsom ddigwyddiad lansio, pan ddangoswyd fideo am brofiadau merched. Dros yr wythnosau nesaf, byddwn yn mynd ati i hyrwyddo’r fideo, yn enwedig ymhlith staff y llysoedd, dedfrydwyr a'r heddlu, i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o’r anghenion penodol sydd gan ferched. Rydym yn gobeithio y gallai hyn ysgogi mwy o waith yng Nghymru. Gallaf anfon y fideo ar gyfer ein cyfarfod nesaf.

Laura Tranter (Barnardo’s Cymru): Mae Llys y Goron Merthyr wedi cynnig ystafell i’n gwasanaeth CSOF (Cymorth Cymunedol i Deuluoedd Troseddwyr Theuluoedd). Byddwn yno unwaith yr wythnos. Gobeithio y bydd hyn yn golygu y gallwn ddod i adnabod mwy o'r teuluoedd a staff y llys. Mae angen newidiadau cenedlaethol, fel sefydliad sy’n gweithredu ar lefel y DU, ac mae Barnardos wedi bod yn galw am Weinidog i fod â chyfrifoldeb dros y mater hwn, gan y gall rhagor o gyfleoedd i ddylanwadu godi.  

Wendy Hyett (Prosiect Braenaru i Ferched): Mae’r Ymddiriedolaeth Diwygio Carchardai’n ddefnyddiol o ran dylanwadu ar faterion merched.

Yvonne Rodgers (Barnardo’s Cymru): Diolch yn fawr i'r siaradwyr ac eraill sydd wedi gwneudcyfraniad sylweddol i'r cyfarfod hwn.

Tim Ruscoe (Barnardo's Cymru): Bydd un sesiwn arall i ymdrin â mater penodol, yna byddwn yn edrych ar yr hyn rydym wedi’i ddarganfod cyn paratoi adroddiad terfynol i'r Llywodraeth. Mae hwn yn debygol o gynnwys dau gwestiwn allweddol: 1) Beth all Llywodraeth Cymru ei wneud? 2) Sut y gall Llywodraeth Cymru ddylanwadu ar Lywodraeth y DU?

 

DS: Ers y cyfarfod, gofynnwyd i’r wybodaeth a ganlyn gael ei hychwanegu at y cofnodion.

 Yn y cyfarfod, nodwyd nad oes unrhyw hosteli mechnïaeth yng Nghymru ar gyfer merched yn benodol ond, ers hynny, deallwn fod rhywfaint o ddarpariaeth ar gael. Mae’r Prosiect Braenaru i Ferched wrthi’n cynnwys y ddarpariaeth  yn eu gwaith treialu.